Amdanom ni

Mae STIWDIO UN yn stiwdio recordio ac ymarfer preswyl wedi ei adeiladu mewn hen dy cerrig Cymreig.

Stiwdio recordio: trosolwg

Mae stiwdio recordio ac ymarfer STIWDIO UN yn wasanaeth recordio traddodiadol sy’n gallu arlwyo eich holl anghenion clywedol, gan ddefnyddio ystod eang iawn o dechnoleg fodern neu ‘vintage’.

Cysidrwn unrhyw fath o waith ond yn croesawu artistiaid unigol, bandiau (bach a mawr), corau, cerddorfaoedd a tros-leisio (gan gynnwys trosleisio dros y ffôn, promptiau a negeseuon).

Mae ein ystafell aml-acwstig gwrth sain (sydd gyda ardaloedd marw, niwtral, byw a bwth llais) yn golygu y gallwch recordio neu ymarfer unrhyw bryd o’r dydd neu’r nos ac y gallwch lwyddo i gyflawni unrhyw fath o sain yr hoffech.

Mae ein ystafell rheoli yn cynnig amgylchedd bwrpasol ar gyfer gwrando (felly dim angen gwyro eich cymysgfeydd ar systemau gwahanol fel eich car... [Be da chi’n ei glywed yw sut mae o’n swnio!]) wedi ei arfogi gyda offer recordio a chymysgu digidol ac analog ar y cyd a detholiad eang o effeithiau, allfyrddau, meicroffonau, syntheseisers ac offerynnau di-ri.

Rydym yn gallu cynnig cyngor a chymorth ar unrhyw gam o’r broses gynhyrchu, o’r syniad cychwynnol i ddarlledu / rhyddhau albwm, ar leoliad neu yn y stiwdio. Rydym hefyd yn cynnig ail-gymysgu ac ail-fastro recordiadau cartref.

Os nad ydych yn ddigon lwcus i fyw yng Nghymru, pam ddim aros yn ein byncws!

Llety

Rydym wedi ein lleoli yn Rachub; ger Bethesda – pentref bychan yng Ngogledd Cymru ar ochr y mynydd Moel Faban yn yr enwog Dyffryn Ogwen (Chwarel y Penrhyn ac mae Zip World ond tafliad carreg i ffwrdd)... llyniau o Ddyffryn Ogwen ar Flickr.

Gallwn gynnig llety yn ein cabin efo stafell wely meister a stafell bync yn cysgu 2-4 a byncws 4 gwely, gyda gwely soffa sengl ychwanegol felly yn cysgu 4-5 yn rhannu gyda mwynderau hunan arlwyaeth, teledu Sky, Hi-Fi a Wi-Fi.

Mae yna batio gyda BBQ nwy a bwrdd llechen mawr er mwyn mwynhau bwyta yn yr awyr iach. Caiff gwestai fynediad i far preifat gyda bwrdd pwl, soffa enfawr 8 sedd a sgrin sinema 68” HD (Xbox a Play Station), perffaith ar gyfer ymlacio rhwng cynigion neu ar ddiwedd diwrnod hir o recordio.

Mae gennym hefyd sba / twb poeth Canadian 6 person 130 jet a pwll nofio wedi ei gynhesu. Rydym hefyd yn gallu cynnig opsiynau prydau-llawn neu hanner-llawn megis brecwast Cymreig a bwydydd maethlon moethus cartref wedi eu gweini mewn awyrgylch cartrefol.

Offer

Digidesign Pro Tools yw’r llwyfan recordio dewisedig yn Stiwdio Un. Mae llwyfannau eraill ar gael Logic Pro X, Abelton Live 9, Reason 8, Stunio One 3, Reaper, Sibelius a Cubase SX.

Y prif gonsol cymysgu yw’r analog Soundcraft Ghost 24:8:2. Mae gennym ddetholiad eang o offer allanol modern a vintage gan gynnwys offer falf anhygoel.

Mae hefyd casgliad hyfryd o bob mathau o chwyddseinwyr ac offerynnau fel na fyddwch yn methu unrhyw gyfleon i greu synau a tonau newydd.

Hyn i gyd ar y cyd a dewis o dros 40 o wahanol fodelau o feicroffonau i ddewis ohonynt gan gynnwys sawl pâr o glasuron. Os ydych yn berson clywedol traddodiadol, yna efallai y buasech yn hoffi recordio ar un o’n peiriannau tap er mwyn dal y gwir sain analog dilys hwnnw.

Artistiaid

Mae dros 100 o fandiau neu artistiaid unigol a nifer fawr o gwmniau teledu a'r cyfryngau wedi recordio yma yn Stiwdio Un ers ei agor yn 2003. Llawer ohonynt wedi dewis dychwelyd i Stiwdio Un dro ar ôl tro. Yn ddiweddar rydym wedi bod yn gweithio gyda Lisa Jên o 9 Bach ar drac sain ar gyfer ei ffilm newydd ‘Elin’.

Mae Plant Duw wrthi yn recordio eu albwm diweddaraf; Radio Rhydd wedi bod yma yn recordio gyda Gwyn Jones (Maffia Mr Huws) ac MC Penny-Wize newydd orffen ei ail alwm gyda ni. Mae Grŵp Cydweithredol Cymru newydd ddarfod recordio eu cyfres o wybodaeth a trosleisiad ar gyfer y we.

Mae Made in Manchester production wedi darfod eu hail sesiwn recordio gyda ni.

Mae llawer o fandiau yn ymarfer gyda ni yn rheolaidd gan gynnwys The Forgotten Age, Radio Rhydd, The Headaches, a Wermod. Mae rhai bandiau wedi mwynhau ein pecynnau llety gan gynnwys Two Door Cinema Club, The Skellums, The Crave, Smiling Ivey, The 13th, Fontella Hoax ac Anweledig.

Sam Durrant

Croeso i wefan STIWDIO UN.

Fy enw i yw Sam Durrant a fi yw perchennog STIWDIO UN.

Rwyf wedi bod yn recordio sain a chynhyrchu cerddoriaeth ers 1988. Mae fy nghefndir yn deillio o gerddoriaeth glasurol fel recordio deunydd unigol, sgoriau trac sain a gwahanol ensemblau.

Rwyf wedi gweithio yn helaeth gyda systemau PA cyngherddol ar y cylch gwyliau yn y 90au ac ers hynny ar y sin gerddoriaeth Gymraeg.

Arweiniodd hyn i mi i adeiladu fy stiwdio recordio flaenorol yn Waunfawr ger Caernarfon, Gogledd Cymru, a elwir bellach yn Gwynfryn, sydd yn stiwdio gymunedol.

Rwyf wedi recordio rhan fwyaf o genres o gerddoriaeth gan gynnwys corau a bandiau pres reit drwodd i fandiau pop a roc gyda phopeth yn y canol (Afro beat, hip-hop, opra, Gwerin, Death Metal, Jas a cerddoriaeth byd) ac wrth gwrs trosleisio dramâu radio.

Dwi’n gweld fy hun rhan fwyaf fel peiriannydd / cynhyrchydd er fy mod yn raglennydd trydanol a chyfrifiadurol cymwysedig a dwi’n chwarae cerddoriaeth, ond dim ond am hwyl.

Mae gen i dast gwirioneddol eclectig mewn cerddoriaeth gyda dros 6000 o albymau ar finyl yn fy nghasgliad a sawl miloedd o cd’s. Dwi’n mwynhau helpu pobl i gyflawni unrhyw sain y gallent ddisgrifio yn y stiwdio.