BYNCWS A’R CABAN

Dewch i aros yng Nghaban Preifat hunanarlwyo cyfforddus Stiwdio Un a/neu ein Byncws croesawgar efo lle i hyd at 9 o westeion. Bydd gennych bopeth sydd ei angen arnoch i weithio, gorffwys, ymarfer corff a chwarae yn ystod eich arhosiad. Ac wrth gwrs mae mynyddoedd, llynnoedd, llwybrau cerdded bryniau a dyffrynnoedd a thirweddau syfrdanol o gwmpas.

LLETY HUNAN-ARLWYO I HYD AT 9 GWESTAI • CABAN PREIFAT GYDA BYNCWS AR WAHÂN • MYNEDIAD STIWDIO 24 AWR • WIFI CYFLYM • HIFI GRÊT, SKYTV • SGRIN SINEMA 68″ HD • BAR PREIFAT • PWLL NOFIO CYNNAS AWYR AGORED • TWB POETH • PATIO EFO BBQ • BICIAU AR GAEL

MAE LLETY BYNCWS YN CYNNWYS:

Gall gynnig llety i 4-5 yn rhannu (pump sengl) er bod rhai aelodau o fandiau wedi cysgu yn gyfforddus iawn yn y bar (mae gwlâu campio ychwanegol ar gael). Mae’r byncws ei hun yn cynnig mwynderau hunan arlwyo llawn ynghyd a chegin bach a’r holl ‘mod cons’ gan gynnwys Sky/freeview, DVD a Hi-fi. Mae’r byncws drws nesaf i’r stiwdio ac yn agor allan ar ardal patio breifat awyr agored ynghyd a set barbeciw nwy yn barod i fynd…, perffaith! Gall ein cogydd preswyl (Ceri Charles) hefyd gynnig arlwyaeth hanner prydau ac opsiynau arlwyo eraill.

MAE LLETY CABIN YN CYNNWYS:

Gall y caban ddarparu ar gyfer rhannu 2-4 (2 sengl a 1 maint Brenin). Mae’r Caban drws nesaf i’r byncws ac yn agor allan i lawnt breifat wrth ymyl y pwll nofio.

Absolutely fantastic studio!!! We were really well looked after by Sam and his wonderful wife (she makes a mean chilli by the way). The facilities were excellent, everything we needed.

The accommodation was superb and we even got to use the hot tub (even if the outside temperature was -2). The surrounding countryside was idyllic for getting the creative juices flowing.

Would highly recommend for anyone and we shall certainly try to head back soon.

RAY GRANDY

Cysylltwch

Isho gwybod mwy? Mae’n dechrau efo swrs. Fysa ni wrth ein bodd ateb eich cwestiynau a’ch helpu i gynllunio eich recordiad, prosiect ysgrifennu neu ymarfer yma yn Stiwdio Un.

Edrychwn ymlaen i glywed gennych.